Click on the image, above to submit to Pinterest.

Jam Llus (Bilberry Jam)

Jam Llus (Bilberry Jam) is a traditional Cymric (Welsh) recipe for a classic jam made from wild bilberries. The full recipe is presented here and I hope you enjoy this classic Welsh version of: Bilberry Jam (Jam Llus).

prep time

20 minutes

cook time

50 minutes

Total Time:

70 minutes

Makes:

6 jars

Rating: 4.5 star rating

Tags : Wild FoodVegetarian RecipesBritish RecipesCymric/Welsh Recipes

Original Recipe

Efallai mai oherwydd bod y tymor llus yn cyd-daro â'r egwyl haf yr ysgol, roedd y jam canol haf yn un yr oeddem yn edrych ymlaen ato. Mae llus yn ffrwythau gwyllt hyfryd sy'n gorchuddio'r ucheldiroedd corsiog lle roeddwn i'n arfer byw. Fel plant byddem yn dewis ac yn gor-stwffio ein hunain ar y ffrwythau bach ond blasus hyn, gan ddod adref yn borffor lliw o ben i droed. Yn ogystal â pharatoi theisennau a sawsiau â rhewi'r frwythau roedd y jam sur ond blasus hwn yn ffordd draddodiadol o gadw'r ffrwythau gwyllt.

Cynhwysion:

2.7kg o siwgwr
1.8kg o lus
1.8l o ddŵr

Dull:

Golchwch y llus, gan dynnu unrhyw goesynnau a dail. Cyfunwch y ffrwythau mewn sosban waelod trwm ynghyd â'r dŵr. Dewch i'r berw, cyn lleihau'r gwres i fudferwi a choginio'r gymysgedd am 30 munud, gan stwnsio'r ffrwythau yn erbyn ochr y sosban gyda llwy bren nes bod y ffrwythau'n feddal. Ychwanegwch y siwgr i'r sosban, gwreswch drwodd, gan droi nes ei ddiddymu'n llwyr. Dewch i ferwi a choginiwch yn gyflym am tua 15 munud. Profwch ar gyfer gosod trwy osod plât yn yr oergell. Llwywch ychydig o'r jam ar y plât, caniatewch iddo oeri cyn ei symud gyda'ch bys. Os yw croen crychog yn ffurfio yna mae'r jam yn barod. Os nad yw'n furfio berwch am 5 munud yn fwy a'i brofi eto. Sgimiwch wyneb y jam cyn lletwadu i fewn i jariau wedi'u sterileiddio sydd wedi'u cynhesu mewn popty wedi'i osod i 100°C am 10 munud. Gadewch 1cm o ofod am ben y jam, yna gosodwch y caead, caniatewch i'r jam oeri cyn labelu a storio.

English Translation


Perhaps it was because the bilberry season coincided with the summer school break, this was always a mid summer jam that we looked forward to. Bilberries are a lovely wild fruit that cover the boggy uplands of where I used to live. As children we would pick and gorge ourselves on these tiny but tasty fruit, coming home stained purple from heat to foot. As well as preparing pies and sauces and freezing the fruit, this tart but tasty jam was a traditional way of preserving the wild fruit.

Ingredients:

2.7kg sugar
1.8kg bilberries
1.8l water

Method:

Wash the bilberries, removing and stalks and leaves. Combine the fruit in a heavy-bottomed saucepan along with the water. Bring to a boil, reduce to a simmer and cook for 30 minutes, mashing the fruit against the side of the pan with a wooden spoon until the fruit is tender.

Add the sugar to the saucepan, heat through, stirring until completely dissolved. Bring to a boil and cook rapidly for about 15 minutes. Test for setting by placing a plate in the fridge. Spoon a little of the jam onto the plate, allow to cool then move it with your fingernail. If a crinkly skin forms then the jam is ready. If not continue boiling for 5 minutes more and test again.

Skim the surface then ladle into sterilized jars that have been warmed in an oven set to 100°C for 10 minutes. Allow 1cm of head space then secure the lid, allow to cool, label and store.